badlais o Salm 89:27,37
c cyfeiriad at Daniel 7:13; cyfeiriad at Sechareia 12:10
gadlais o Daniel 3:25; 7:13; 10:5-6,18
hadlais o Eseciel 1:24; 43:2
iadlais o Eseia 41:4; 44:6; 48:12

Revelation of John 1

Rhagair

1Dyma ddangosodd y Meseia Iesu am beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan. Duw ddangosodd hyn iddo, i'w rannu gyda'r rhai sy'n ei ddilyn a'i wasanaethu. Anfonodd ei angel ata i ei was Ioan, 2a dw i'n gallu tystio fy mod i wedi gweld y cwbl sydd yma. Mae'n neges oddi wrth Dduw – yn dystiolaeth sydd wedi ei roi gan y Meseia Iesu ei hun. 3Bydd y person sy'n darllen y neges broffwydol hon i'r eglwys yn cael ei fendithio'n fawr. A hefyd pawb sy'n gwrando ar y neges yn cael ei darllen, ac yna'n gwneud beth mae'n ei ddweud. Mae'r amser pan fydd y cwbl yn digwydd yn agos.

Cyfarchion

4Ioan sy'n ysgrifennu,

At y saith eglwys yn nhalaith Asia:
1:4 Asia: Mae'r adran o 1:4—3:22 ar ffurf llythyr. Asia oedd rhan ddwyreiniol yr Ymerodraeth Rufeinig, sef Twrci heddiw.

Dw i'n gweddïo y byddwch yn profi haelioni rhyfeddol a heddwch dwfn gan Dduw, yr Un sydd, ac oedd ac sy'n mynd i ddod; gan yr Ysbryd cyflawn perffaith sydd o flaen yr orsedd; 5a hefyd gan y Meseia Iesu, y tyst ffyddlon, y cyntaf i gael ei eni i fywyd newydd ar ôl marw, a'r un sydd ag awdurdod dros holl frenhinoedd y ddaear. b Mae'n ein caru ni, ac mae wedi marw troson ni i'n gollwng ni'n rhydd fel bod pechod ddim yn ein rheoli ni ddim mwy. 6Mae'n teyrnasu droson ni ac wedi'n gwneud ni i gyd yn offeiriaid sy'n gwasanaethu Duw, ei Dad! Fe sy'n haeddu pob anrhydedd a nerth, am byth! Amen!

7 Edrychwch! Mae'n dod yn y cymylau!
Bydd pawb yn ei weld –
hyd yn oed y rhai a'i trywanodd!
Bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear
yn galaru o'i achos e. c

Dyna fydd yn digwydd! Amen!

8Mae'r Arglwydd Dduw yn dweud, “Fi ydy'r Alffa a'r Omega
1:8 Alffa ac Omega: Y llythyren gyntaf a'r olaf yn yr wyddor Roeg (Mae'n golygu ‛cyntaf‛ ac ‛olaf‛).
– Fi ydy'r Un sydd, oedd, ac sy'n mynd i ddod eto, yr Un Hollalluog.”

Gweledigaeth o un fel person dynol

9Ioan ydw i, eich cyd-Gristion. Fel chi dw innau hefyd yn dioddef, ond am fod Duw yn teyrnasu, dw i'n dal ati fel gwnaeth Iesu ei hun. Roeddwn i wedi cael fy alltudio i Ynys Patmos
1:9 Ynys Patmos: Ynys fechan lle roedd y Rhufeiniaid yn cadw carcharorion.
am gyhoeddi neges Duw a thystiolaethu am Iesu.
10Roedd hi'n ddydd Sul, ac roeddwn i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân. Yn sydyn clywais lais y tu ôl i mi, yn glir fel trwmped. 11Dyma ddwedodd: “Ysgrifenna beth weli di mewn sgrôl, a'i anfon at y saith eglwys, sef Effesus, Smyrna, Pergamus, Thyatira, Sardis, Philadelffia, a Laodicea.”

12Dyma fi'n troi i edrych pwy oedd yn siarad â mi, a dyma beth welais i: saith canhwyllbren aur. 13Yn eu plith roedd “un oedd yn edrych fel person dynol.”
1:13 person dynol: Iesu.
Roedd yn gwisgo mantell hir oedd yn cyrraedd at ei draed a sash aur wedi ei rwymo am ei frest.
14Roedd ganddo lond pen o wallt oedd yn wyn fel gwlân neu eira, ac roedd sbarc yn ei lygaid fel fflamau o dân. g 15Roedd ei draed yn gloywi fel efydd mewn ffwrnais, a'i lais fel sŵn rhaeadrau o ddŵr. h 16Yn ei law dde roedd yn dal saith seren, ac roedd cleddyf miniog yn dod allan o'i geg. Roedd ei wyneb yn disgleirio'n llachar fel yr haul ganol dydd.

17Pan welais e, dyma fi'n llewygu wrth ei draed. Yna cyffyrddodd fi â'i law dde, a dweud wrtho i: “Paid bod ag ofn. Fi ydy'r Cyntaf a'r Olaf, i 18yr Un Byw. Roeddwn i wedi marw, ond edrych! – dw i'n fyw am byth bythoedd! Gen i mae allweddi Marwolaeth a Byd y Meirw. 19Felly, ysgrifenna beth rwyt ti'n ei weld, sef beth sy'n digwydd nawr, a beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan.

20“Ystyr cudd y saith seren welaist ti yn fy llaw dde i a'r saith canhwyllbren aur ydy hyn: Mae'r saith seren yn cynrychioli arweinwyr
1:20 arweinwyr: Groeg, “angylion” neu “negeswyr”.
y saith eglwys, a'r saith canhwyllbren yn cynrychioli'r saith eglwys.”

Copyright information for CYM